Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2014 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.37 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 28 Ionawr 2015
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Y Bil Llywodraeth Leol (Cymru)
Cytunodd Rheolwyr Busnes o ran egwyddor i gyfeirio’r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth yng Nghyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio penderfyniad ar amserlen y Bil fel y gellir ymgynghori â’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
5 Y Rheolau Sefydlog
5.1 Cynigion i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Chofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau ac Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog er mwyn rhoi argymhellion adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â Chofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau ac Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar waith.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’u grwpiau ar y cynigion ac i drafod y mater ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 20 Ionawr 2015.
Unrhyw Fater Arall
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu bod yn fodlon â fformat Cwestiynau’r Llefarwyr sydd wedi bod ar waith ers dechrau tymor yr hydref 2014.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai’r ddadl nesaf gan Aelod unigol gael ei chynnal ddydd Mercher 11 Mawrth, 2015.